| JOCS AM Y SAESON -3 |
|
| ...yn ol i'r tudalen hafan |
| RHYFEL Mae'n rhyfel rhwng y Cymry a'r Saeson. Fel arfer y mae'r Saeson wedi anfon eu byddin i Gymru, ond fel arfer y mae gwrthryfelwyr ymhobman yn ymosod ar y gelyn. Dyma garfan fawr o filwyr Lloegr yn mynd i lawr y ffordd. Yn sydyn clywan nhw lais yn dweud yn yr iaith fain - "Mae un Cymro yn well na dau Sais." Mae'r llais yn dod o'r tu �l i frync�n. Mae'r capten yn gweiddi ar i'r garfan aros ac yn anfon dau o'i filwyr dros y bryncyn. Fe glywir saethu, ac wedyn tawelwch. Dau funud wedyn, dyma'r un llais yn dweud, "Mae un Cymro yn well na deg o Saeson." Gorchymyn arall. Deg Sais yn rhedeg dros y bryncyn, saethu, tawelwch, ac ar �l p�r o funudau yr un llais eto - "Mae un Cymro yn well nag ugain o Saeson." Mae'r garfan o Saeson yn prysur ddiflanu. "Mae un Cymro yn well na chant o Saeson." Dim ond cant sydd ar ol yn y garfan. Mae'r capten yn rhoi'r gorchymyn i'r grwp olaf fynd dros y bryncyn i ladd y Cymro haerllyg hwnnw. Saethu, tawelwch - ond y tro hyn, dyma filwr yn rhedeg yn �l at y capten, a chwympo o flaen traed y capten. "Mae'r garfan wedi 'i difa i gyd, syr," meddai'r milwr gan dynnu'i olaf chwyth - "Ond trap oedd e! DAU Gymro sy 'na!" |
| RHYFEL ETO Mae'n rhyfel rhwng Cymru a Lloegr, ac y mae'r Saeson yn ceisio cipio rhai o drefi cefn gwlad Cymru. Mae'r Saeson sydd yn byw yno yn gweithredu fel pumed golofn yn achosi difrod i'r cyflenwad dwr a thrydan yn y nos er mwyn cynorthwyo'r gelyn, eu cydgenedl yn Lloegr. Yn Llanidloes mae byddin Cymru yn datgan cyrffiw ac yn trefnu carfan amddiffyn i fynd ar batr�l yn y nos. Fe aiff Wil Morgan i'r swyddfa criwtio ac mae'n ymuno �'r garfan. Mae swyddog yn rhoi reiffl iddo, ac yn dweud - "Mae gyda chi dasg pwysig heno. Mae yn y dre 'ma gyrffiw o heno ymlaen. Os bydd rhywun i'w weld allan o'i dy ar �l deg y nos, rhaid i chi ei saethu'n farw." Dyma Wil yn sefyll yn y tywyllwch ar sgw�r Neuadd y Farchnad yn y dre am hanner awr wedi naw. Mae e'n gweld rhywun yn dod o dafarn ac yn cerdded tuag ato fe. "Pwy sy 'na?" meddai. Dyma lais Saesneg yn ateb, "Michael Johnson." Bang! A dyma'r Sais ar ei hyd ar lawr, yn gelain. Wel, wel! meddai'r swyddog, saethwr di-feth ych chi, Wil Morgan, does dim dowt am hynny. Ond dim ond hanner awr wedi naw yw hi." "Dech chi'n iawn, syr," meddai, "ond dw i'n gwbod ble roedd yr hen gythrel yn byw - fyny ar y mynydd, gwaith deugen munud o ganol y dre ma. Fase fe ddim wedi cyrraedd adre mewn pryd." |
| LLYSENWAU Sais yn cerdded � ffrind i lawr heol fawr pentre bach yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r Sais wedi byw yn y pentre ers rhai blynyddoedd, a'r ffrind wedi dod o Loegr i ymweld ag e. Meddai'r Sais yn yr iaith fain, "Lle hyfryd yw'r pentre bach 'ma. Yr unig broblem yw fod yma Gymry yn dal i fyw, a does ganndyn nhw ddim parch aton ni'r Saeson. Rhai busneslyd, haerllyg a sarh�us �w'r Cymry, bob un yn ddieithriad." "Pam ych chi'n gweud hynny, te?" "Weli di'r oriel gelf 'na? Fi biau hwnna. Hen gapel oedd e; prynes i fe a'i droi yn oriel. Fe fase rhywun ym meddwl y bysan nhw'n ngalw i 'Rupert Oriel Gelf.' Dim peryg!" Maen nhw'n cyrraedd crochendy wrth bont yr afon. "Weli di'r crochendy 'ma? Fi biau hwn. Hen felin oedd e; prynes i hi a'i throi yn grochendy. Fe fase rhywun ym meddwl y bysan nhw'n ngalw i 'Rupert Crochendy.' Dim peryg!" Maen nhw'n croesi'r bont, ac o'r fan honno y gwelir ty mawr yn y coed. "Weli di'r gwesty 'cw? Fi biau hwncw. Hen blas oedd e; prynes i fe a'i droi yn westy. Fe fase rhywun ym meddwl y bysan nhw'n ngalw i 'Rupert Gwesty.' Dim peryg!" |
| Meddai'r ffrind, "Dyn nhw ddim yn gwerthfawrogi yr hyn rych chi wedi ei wneud i ddyrchafu'r pentre te?" "Dim o gwbl. Dyma'r math o bobl yw'r Cymry 'ma - rhai eofn ac anniolchgar. Os digwydd i Sais wneud rhywbeth bach yn breifat sydd wedyn yn dod yn hysbys iddyn nhw, mae'n siwr y bydd rhyw enw gwatwarus arno am weddill ei oes gyda'r giwed 'ma. A dim ond UNWAITH cnyches i'r hen ddafad 'na." |