| SAIS YW SAIS Sais yn prynu ty mewn pentre Cymraeg ac yn mynd i'r Llew Du ar yr Heol Fawr. Mae yno Gymry yn y tafarn, yn siarad yr iaith genedlaethol, ac mae hynny yn d�n ar groen y Sais. Dyma fe atyn nhw, ac yn ei sgwario ei hun o'u blaenau, ac yn datgan yn iaith yr "S" - "Pan fydd Sais yn dod i mewn, o ran cwrteisi, rhaid siarad Saesneg. Dw i ddim yn siarad Cymraeg (Duw a'n gwaredo rhag y fath beth!) ond rw i'n gwpod eich bod chi yn ei siarad i wneud sbort am 'y mhen i." Cymro o'r grwp yn ceisio esbonio wrtho fe - "Rych chi wedi symud i wlad arall, a Chymraeg yw iaith y wlad honno." Y Sais yn colli'i limpin, ac yn dechrau gweiddi - Fe'm ganwyd yn Sais, Sais w i wedi bod gydol 'n oes, a Sais fydda i hyd ddydd 'y marw! Bachan, bachan, meddai'r Cymro, sdim rhaid i chi fod mor ddiuchelgais! |
| SAIS YN Y TY BACH Sais yn mynd i'r ty bach i helpu'i gorff. Ar ol i'w gachiad ddod i ben, mae'n sefyll a sychu'i dyn, a thynnu lan ei drywsus. Ond dyma ddarn hanner can ceiniog yn neidio o'i boced ac yn cwympo i dwll y toiled. "Daro!" meddai'r Sais, gan edrych i lawr y twll. Mae'n meddwl am rai eiliadau, ac yna yn dweud wrtho ei hun - "Nage! Am hanner can ceiniog wna i ddim! Dyw hi ddim yn werth ei wneud!" Dyma fe'n dodi ei law i'w boced a thynnu i maes ddarn hanner cant arall ac yn ei ollwng i'r twll, gan ddweud, "Ond am bunt, stori arall yw hi!" |
| JOCS AM Y SAESON - 4 |
| Y SGERBWD Yng Nghaerdydd mae'n nhw'n chwalu hen dafarn. Yn y seler mae hen faril bren enfawr a mae rhaid i'w chodi � chraen i'w symud oddi yno. Wrth iddi godi o'r seler ar ben cadwyn dyma'r gweithwyr yn gweld sgerbwd oedd wedi bod mewn cilfach fach yn y wal y tu cefn i'r faril. Maen nhw'n galw'r heddlu, a daw t�m o ddetectifs. Na beth od - meddai un ohonynt. Ar ei sefyll mae'r sgerbwd - fel arfer gorwedd maen nhw. Mae'r gweithwyr wedyn yn trio dyfalu pwy oedd. Rhywun oedd wedi ei herwgipio, ac wedi ei adael i farw? Rhyw arweinydd gang oedd wedi ei fwrdro? Dau ddiwrnod wedyn dyma un ohonynt yn ffonio'r heddlu. "Ych chi'n gwybod eto pwy oedd y corff ddarganfyddon ni yn seler yr hen dafarn?" "Ydyn. Ych chi wedi clywed am Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 1958? "Wel, ydw, bu nhad-cu yn s�n amdanyn nhw." "Wel, yr hen Sais 'na oedd, hwnnw ddaeth ddim i gasglu ei wobr ar ddiwedd y gystadleuaeth." "Pa Sais oedd hwnnw?" "Pencampwr Lloegr yn y Chware Cwato" |
| TYLWYTH TEG Beth yw'r gwahaniaeth rhwng stori Dylwyth Teg ac adroddiad yn y Welsh Daily Mirror? Mae stori Dylwyth Teg yn dechrau �'r geiriau "Ers talwm iawn..." ac adroddiad y Welsh Daily Mirror yn dechrau "Our team of investigators who have been monitoring the activities of Cymuned have found that..." (Trosiad i'r gwir Gymry - y rhai sydd ddim yn siarad yr iaith fain - "Mae ein t�m o newyddiadurwyr a fu'n cadw llygad ar weithgareddau Cymund wedi darganfod fod...") |
| MERCH Y SAIS Cymro, Gwyddel a Sais yn s�n am eu plant. Mae gan bob un ferch bymtheg oed. Meddai'r Cymro yn yr iaith fain, Es i mewn i stafell 'y merch yn ddiweddar ac wrth ochr y gwely roedd pecyn sigarets. Bu'n dipyn o sioc imi - wyddwn i ddim bod hi'n smocio. Dyma'r Gwyddel yn dweud, Wel, y penwythnos diwetha' es i mewn i stafell 'y merch a welais i botel o fodca o dan glustog . Bu'n sioc mawr imi - wyddwn i ddim bod hi'n yfed. A meddai'r Sais, Digwyddod peth tebyg imi hefyd. Es i mewn i stafell 'y merch ac ar ei desg hi gwelais i baced o gondoms. Bu'n sioc enfawr imi - wyddwn i ddim bod ganddi bidyn. |