JOCS AM Y SAESON - 2
Yn ol i'r tudalen hafan
SAIS YN GWNEUD FFAFR
Sais mewn gwesty bach yn mynd i'r lolfa a tharo switsh y golau. Ond thicia hi ddim. Tywyllwch llwyr. Dyma fe'n mynd i gwyno at Mrs Jones.
"O, mae'r bylb wedi chwythu, siwr iawn," meddai. "Wnewch chi ffafr i fi? Dyma'r bylb newydd - wnewch chi ei newid e? Mae'r golau yn rhy uchel i mi."
Dyma'r Sais yn gorfod gwneud y ffafr. Fel arall bydd rhaid iddo aros yn y tywyllwch.  Mae'n llusgo cadair i ganol y stafell. Pan �w e ar fin dringo arni, sylwa'r wraig ar esgidiau brwnt y Sais.
"Arhoswch funud," meddai, "gadwch i fi rhoi shiten o bapur newydd dros sedd y gadair yn gynta'".
Ond dyma'r Sais yn dringo ar y gadair ac yn dweud - "Sdim rhaid. Edrychwch! W i'n gallu cyrraedd y golau yn hawdd hebddi."
ENW'R MAB
Cymro, Gwyddel a Sais yn s�n am eu teuluoedd.
Meddai'r Cymro, "Cafodd 'y mab 'i eni ym mis Mawrth, a chan mai Gw�l Dewi Sant yw Mawrth y cynta, penderfynes roi'r enw Dewi arno."
Meddai'r Gwyddel, "Cafodd 'y mab inne 'i eni ym mis Mawrth hefyd, a chan mai Gw�l Badrig yw Mawrth yr ail ar bymtheg, penderfynes roi'r enw Padrig arno."
Meddai'r Sais -" Cafodd 'y mab inne ei eni ym mis Chwefror."
"Do fe wir?" meddai'r Cymro. "A beth yw enw dy fab dithe?"
"Crempog."
Y SAIS A'R GORILA BENYW
Sw Cenedlaethol Cymru yn Llandrindod yn prynu gorila benyw. Ond ar �l mis mae'r epa yn dechrau mynd yn strancog ac anystywallt. Mae hi'n gwrthod bwyta, ac yn rhedeg o gwmpas y caetsh a thindaflu. Mae'r milfeddyg yn ei harchwilio a gweld ei bod yn boeth. Rhaid cael cymar iddi ar fyrder, ond nid oes yr un ar gael.

Mae Sais bach yn gweithio yn y sw, yn glanha�'r caetshis. A dyma reolwr y sw yn meddwl, "Wel, Sais yw e wedi'r cyfan; efallai hoffai fod yn gymar i'r gorila."

Dyma fe'n galw'r Sais i'r swyddfa ac yn cynnig iddo'r cyfle o ymgydio �'r gorila am bum cant o bunnau. Wrth lwc, mae'r Sais yn lled fodlon ar y cynnig, ond mae'n dweud y bydd yn rhoi ei benderfyniad terfynol y diwrnod wedyn.

Y bore wedyn, dyma fe yn �l i'r swyddfa. "Wel", meddai'r Sais, "rw i'n derbyn y cynnig. Ond o dan dri amod. Yn y lle cyntaf, dw i ddim am ei chusanu hi."
"O'r gorau," meddai rheolwr y sw. "Does dim rhaid i chi ei chusanu."
"Ac yn ail, os rhoiff hi enedigaeth, ddylai f'enw ddim ymddangos ar y dystysgrif eni."
"Popeth yn iawn," meddai rheolwr y sw. "Fydd neb yn gwybod taw chi'r yw'r tad. Ond beth yw'r trydydd amod?"
"Rhaid i chi aros wythnos, imi gael dod o hyd i'r pum cant o bunnau yn rhywle".
NOSON YN Y TAFARN
Sais sydd yn byw mewn bwthyn ar y mynydd yn yfed ar ei ben ei hun yn nhy tafarn y pentre. Mae'r tafarnwr yn galw am i bawb orffen yfed. Dyma'r Sais yn yfed ei lasaid o gwrw ar ei dalcen, rhoi'r gl�s i lawr ac yn codi. ac yn cwympo ar ei hyd. Ceisia sefyll, ond mae'n amhosibl - mae'n cwmypo ar ei hyd unwaith eto. Mae'n penderfynu cropian allan i awyr y nos i gael sobri dipyn bach. Mae gwynt oer y mynydd yn rhoi nerth iddo, ac mae'n codi unwaith eto, ond yn cwympo ar ei hyd ar unwaith. Does dim amdani ond cropian dros Yr Heol Fawr, i lawr i bont y nant, ac i fyny l�n y myn�dd i'w fwth�n.
Wrth ddrws y ffrynt, mae'n ceisio sefyll eto, ond dyma fe'n yn cwympo fel o'r blaen. Cropian i fyny'r st�r a wnaiff a mynd i'w wely. Mae e'n cysgu yn sownd hyd y bore.
Ond mae'n deffro yn sydyn. Mae ei wraig yn ei ysgwyd yn ddidrugaredd, yn amlwg wedi mynd i natur. Mae hi'n gweiddi arno, "Ddywedaist ti taw i'r sinema yn y pentre yr oe't ti'n mynd, ond yn y tafarn oe't ti trwy'r nos yn llanw dy hen fola tew � chwrw, ych a fi!"
"Dyw hynny ddim yn wir o gwbl," meddai. "Dw i wedi addo i ti na fyddwn i ddim yn mynd i'r hen dy tafarn 'na byth eto."
"Wel, mae'r tafarnwr newyd ffonio i weud dy fod di wedi gadael dy gadair olwyn yno!"
SAIS YN CEISIO DEALL
Sais sydd newydd brynu ty mewn pentre yng nghefn gwlad Cymru  yn mynd i'r ty tafarn. Mae Cymry'r pentre - yr ychydig sydd ar �l, hynny yw - yn edrych ar yr eisteddfod ar y teledu.
"Dw i'n deall dim," meddai'r Sais yn iaith ei gydgenedl. "Rych chi wedi gwylio'r corau meibion yno am awr, a mae pob un wedi canu'r un g�n."
Mae Twm yn un da gyda'r Saeson, am fod llawer o amynedd ganddo. Mae'n esbonio taw cystadleuaeth yw hi, a bod y corau yn ymarfer am wythnosau cyn yr eisteddfod, ac yn lle oferu yn y tafarn, maen nhw'n mynd i ryw gapel neu neuadd bentre bob nos ac yn canu'r darn drosodd a throsodd nes ei gael yn iawn.
"Tipyn o waith, te," meddai'r Sais.
"Lladdfa yw hi, achan, lladdfa!"
"Pam maen nhw'n ei wneud, felly?" meddai'r Sais.
"O wel, mae'r c�r gorau yn ennill gwobr."
"Wel, w i'n deall hynny, wrth gwrs," meddai'r Sais, "ond pam mae'r lleill yn ei wneud?"
Jocs am y Saeson - Rhan 3
Yn ol i'r Gweinyddiaeth Miri
Hosted by www.Geocities.ws

1