Jocs am y Saeson - Rhan 2
Yn ol i'r tudalen hafan
JOCS AM Y SAESON - 1
YSGOL CWM-COCH
Sais bach yn dod adre o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi sut i gyfri yn Gymraeg. A fi oedd y gorau! Dim ond hyd at bump o'dd y lleill yn gallu mynd, ond o'n i'n gallu cyfri hyd at ddeg. Gwrando, mami - un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n gwneud yn well na nhw?"
"Ie, wrth gwrs, machgen i. Ryn ni'r Saeson ym maeddu'r Cymry bob tro."
Y diwrnod wedyn, dyma'r Sais bach yn dod n�l o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi sut i ddweud yr abi�c.  A fi oedd y gorau! Dim ond hyd at 'D' o'n nhw'n gallu mynd, ond o'n i'n gallu dweud hyd at 'G'! Gwrando, mami - A, B C, CH, D, DD, E, F, NG, G!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n gwneud yn well na nhw?"
"Ie, wrth gwrs, machgen i. Mae'r Saeson yn glyfrach o lawer na'r hen Welshis twp 'na."
Y diwrnod wedyn, dyma'r Sais bach yn cyrraedd adre o ysgol gynradd Cwm-coch, ac yn gweud yn yr iaith fain wrth ei fam,
"Dysgon nhw i ni heddi am droedfeddi a modfeddi. A bu rhaid gweud pa mor dal w i , a fi oedd y tala! Ro'n i'n dalach o ddwy droedfedd na gweddill y dosbarth!"
"Da iawn, machgen i."
"Ai oherwydd taw Sais w i mod i'n dalach na nhw?"
"Nage, cariad bach. Chwech oed �w pawb arall, ond saith ar hugain w�t ti."
SAIS CYFLYM AC ARAF
Heddwas o Gymro yn stopio Sais s�dd wedi bod yn goryrru ar h�d l�n fach yn nghefn gwlad Cymru, ac yn gofyn iddo ddangos ei drwydded yrru iddo.
"Paham pigo arna i fel hyn? Am taw Sais w i, iefe?" meddai'r Sais yn grac.
"Nage. Am eich bod yn goryrru."
"Wel, peidiwch gofyn i FI ei ddangos i chi. Bydd rhaid gofyn i'r barnwr."
"Y barnwr?"
"Ie. Bues i yn  y cwrt bach yng Nghaernarfon yr wythnos diwethaf ar ol rhyw ddamwain fach ac  mi gymerodd y diawl 'nhrwydded oddi arna i. Ond dw i'n siwr bydd ei rif  yn y llyfr ffon os oes gwir angen i chi ei gweld hi ."
YR YSBRYD
Mae Cymro, Sais a Gwyddel yn glanhau'r traeth yn Aberystwyth ac yn dod o hyd i botel o liw porffor ar y tywod. Dyma'r Sais yn ei chodi, a chyn ei rhoi yn y bag swbriel mae e'n tynnu'r corc i weld a oes ychydig o win yn y gwaelod y gallai ei yfed. Yn sydyn dyma ysbryd yn dod allan ohoni.
"Rych chi wedi f'achub o'r botel, gyfeillion!" meddai yn Gymraeg. "Fe gaiff pob un ddymuniad gen i."
Mae'r Gwyddel yn dweud, "Rw i wedi dod i fyw i bentre bach ar bwys Aberystwyth, ac rw i'n dysgu Cymraeg, ond hoffwn i siarad Cymraeg yn rhugl, fel Cardi."
A ffrwst! Mae'r Gwyddel yn medru parablu Cymraeg yn union fel Cardi.
Dyma'r Sais yn gofyn yn ei iaith ei hun beth ddywedodd yr ysbryd. Mae'r Cymro yn esbonio iddo 'i fod e'n cael  gwneud dymuniad.
"Rw i wedi dod i fyw i bentre bach ar bwys Aberystwyth, ac wrth lwc Saeson i gyd sydd yn byw yno. Mae arna i eisiau i chi roi wal o gwmpas y pentre, i gadw'r Welshis allan."
"O'r gorau," meddai'r ysbryd. "Mae gen ti wal o'i gwmpas."
Tro'r Cymro yw e nawr. "Gweud 'tho i," meddai wrth yr ysbryd, "sut wal yw honno o gwmpas y pentre?"
"Wel, un hanner can troedfedd o drwch, a chant a hanner o droedfeddi o uchder. Fydd dim yn gallu mynd mewn a dim yn gallu dod ma's."
"Wel hoffwn i gael cronfa ddwr i dre Aberystwyth. Llanw bentre'r Sais gythrel 'na hyd y fyl".
DAU ATHRYLITH
Dau Sais yn cerdded ar hyd yr hewl. Dyma un yn edrych i mewn i ffenest siop ddodrefn
Mae drych bach ar werth yn y ffenest. Mae'r Sais yn edrych i'r drych ac yn dweud yn syn "Duw, Duw! W i'n nabod hwnna!"
Y Sais arall yn gofyn, "Pwy?"
"Hwnna yn y drych 'na, w!"
Y Sais arall yn dweud, "Gad i fi weld, te!"
Mae yntau'n edrych i'r drych ac yn gweud, "Y twpsyn shwd ag wyt ti! Wrth gwrs dy fod di'n ei nabod. Y fi yw e!"
YN Y TY TAFARN
Wil y Bont yn mynd i lawr i'r dafarn. Sais sydd wedi ei brynu - a dweud y gwir, mae hanner tai'r pentre yn nwylo'r Saeson erbyn hyn.
Dyma'r Cymro yn dweud yn iaith plant Alis wrth y tafarnwr o Sais - "Wel, un peth yr wyf wedi sylwi ar �l i'r holl Saeson 'na symud 'ma. Rhai hawdd eu cael yw'r Saesnesau i ni'r Cymry."
Mae'r Sais yn gwadu hyn.
"Wel, yr wyf wedi bod � rhyw ferch o Saesnes yr wythnos 'ma, a rhaid gweud taw un hawdd iawn oedd hi."
"Pwy oedd honno te?" meddai'r Sais.
"Drycha, bachan, weda i byth wrthot ti. Bonheddwr w i, chwel'. Fradycha i moni."
"Dere, Twm. Rw i'n sicr o wbod yn y pen draw ta pun. Iefe Jane Smart, Mountain View, oedd hi?"
"Weda i ddim. Cyfrinach yw hi."
"Neu falle Emma Smith, Fairy Cottage?"
"Weda i ddim. Cyfrinach yw hi."
"Chloe Walker, Larksong House?"
"Weda i ddim. Cyfrinach yw hi."
"Lizzy Pollard, Wizard's Cave?"
"Weda i ddim. Cyfrinach yw hi."
"Iefe Jane Stewart, Squirrel's Orchard, oedd hi?"
"Fel w i 'di gweud, 'achan, chei di ddim enw gen i. Dyma fi'n mynd nawr. Nos da."
Lan ag e i'r Tarw Du, tafarn y Cymry ym mhen arall y pentre. Dyma Si�n Cwm-coch ato fe ac yn gofyn, "Shwd aeth hi?"
"Iawn. Pump arall ar y rhestr gen i."
Yn ol i'r Gweinyddiaeth Miri
Hosted by www.Geocities.ws

1