| Cymdeithas Gymraeg Beddllwynog |
![]() |
| HAFAN |
| TAITH I'R GOGLEDD 13 - 15 CHWEFROR 2009 |
| Roedd ein taith i Ogledd Cymru yn llwyddiannus iawn. Aeth tua 40 o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o Feddllwynog a Merthyr i Wersyll yr Urdd Glan-Llyn am benwythnos. Gadawon ni Feddllwynog am 4.30 y prynhawn ar y bws. Stopion ni ym Merthyr i godi ein cyd-teithwyr cyn i ni fwrw at y Gogledd. Roedd amser i gael peint clou yn Rhaeadr Gwy a chyrhaeddon ni'r Bala am dua 9.30yh er mod i wedi cael cwpl erbyn hynny a sai'n gallu bod yn hollol siwr. Cafodd pawb amser i ganu ac yfed cyn i ni fynd i'r gwely yn ystod oriau gynnar y bore. Bore Dydd Sadwrn roedd llawer ohonom yn edrych fel yr oedden ni wedi cael noson hwyr. Roedd siawns i ddringo, nofio, mynd i fowlio ac am y rhai mwya rhyfygus mynd mas ar y llyn. Aeth rhai i'r Bala hefyd ac ymunom ni i gyd gyda nhw ar gyfer y gem fawr yn y prynhawn. Curodd Cymru y Saeson gyda chymorth aruthrol y trigolion lleol! Treuliom ni'r noswaith dan y dylanwad. Ar y Dydd sul cawsom sawl gweithgaredd: cerdded, canwio, cysgu ac ati cyn cinio. Ar ol cinio dechreuom ni ar y daith hyfryd adre. Pawb di blino ond penwythnos gwych arall. Diolch i Glan-Llyn, Ridgways a Cymunedau'n Gyntaf am wneud y daith yn bosib. Oes lluniau o'r daith gyda thi. E-bostiwch nhw yma i ymddangos ar y wefan |
| Our trip North Wales was a great success. Approximately 40 Welsh speakers and learners from Bedlinog and Merthyr attended the weekend trip to the Urdd Residential Centre at Glan-llyn. The bus left Bedlinog at 4.30p.m. stopping in Merthyr to pick up our fellow travellers before hitting the road to North Wales. There was enough time for a quick pint in Rhayader and we arrived in Bala at approximately 9.30p.m. though I'd had a few by then so I can't be completely certain. Everyone had enough time for a sing-song and a few more drinks before retiring to bed in the early hours. On Saturday morning a number of us looked like we'd had a late night. We had the opportunity to go climbing, swimming, bowling and, for the more adventurous, go out on the lake. Also, some went in to Bala where we met up later that afternoon for the big game. Wales beat England with the rousing support of the locals! We spent the evening intoxicated. On the Sunday, we participated in a number of activities: walking, canoeing, sleeping etc before lunch After lunch we started our lovely journey home. Everyone was tired but had had another fabulous weekend. Our thanks to Glan-Llyn, Ridgways and Communities First for making the trip possible. Have you got pictures of the trip. E-mail them here to appear on the website |