Y Bobol Fach Ddu

 

gan Er Cof

Dywedwyd am Thomas Price ("Carnhuanawc") fod ganddo frwdfrydedd diflino tuag at ddadansoddi a phoblogeiddio chwedlau Cymraeg. A dyna hoffwn innau hefyd wneud yn awr, sef ategu peth o'r traddodiad hwn yn y traethawd canlynol.

Faint ohonom sydd yn ddigon parod cyfaddef i rai feddwl mai storiau sydd yn perthyn i fyd plentyn yw chwedlau, a hynny naill yn y Gymraeg neu'r Saesneg? Cymerwch, er enghraifft, y rhigwm "Ten and twenty black birds baked in a pie." Rhaid bod hon wedi cael ei hysgrifennu yn ystod y cyfnod pan oedd bwyd - a chig yn arbennig - yn brin. Er mwyn osgoi llewygu byddai'r boblogaeth yn hel a lladd adar gwyllt. Onid hyn sydd yn cael ei gyfleu hefyd wrth iddynt sôn am yr hen draddodiad o`Hela'r Dryw Bach' yng Nghymru? (Mae tystiolaeth o'r achlysur hwn i'w gael yn Amgueddfa Werin yn San Ffagan, lle ellir gweld arch fechan - gyda rhubanau yng nghlwm wrthi - wedi cael ei haddurno ar gyfer y dryw oedd wedi ei ladd). Y peth sydd yn rhaid ystyried yw bod y`traddodiad' hwn wedi cael ei sefydlu ar sail newyn. Felly, pryd bynnag y darllenir chwedlau, rhaid cadw dan sylw eu cefndir a'u cyfnod cyn datgan unrhyw farn arnynt. Rhaid cofio pan gafodd y chwedlau hyn eu creu, yr amgylchfyd, fel mynyddoedd, afonydd, adar ac ati oedd sail eu datblygiad. Roedd hyn yn hollol ddealladwy am nad oedd yna adeiladau sylweddol nag enwau llefydd yn bodoli bryd hynny lle gellid cyfeirio tuag atynt. Mae hyn yn awr yn ein harwain i’r chwedl adnabyddus 'Morwyn Llyn y Fan'.

Tybiaf fod yna nifer fawr o ddarllenwyr y chwedl wedi dod i'r casgliad mai stori `tylwyth teg' yn llythrennol yw hon. Pwy arall ond plant sydd yn ddigon parod i gredu bod yna bobl fach yn gallu codi o waelodion y dŵr, fel gwnaeth y forwyn yn chwedl Llyn y Fan?

Y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin yw lleoliad Llyn y Fan. Ond beth sydd yn hynod yw bod y rhan mynyddig lle mae'r llyn yn bodoli yn cynnwys nifer o gwteri sy'n arwain dŵr i ddiflannu i dyllau yn y ddaear. Dylid dweud hefyd bod y man hwn yn ddaearyddol agos i Dan yr Ogof - yr ogofeydd hir ac anferth ym mhen uchaf Cwm Tawe. Os buoch erioed yn un o'r twristiaid sydd yn mynd yno'n fynych i weld gogoniant y lle, 'rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi'r dŵr sydd yn llifo'n rymus trwy'r ogofeydd. Hyd yn oed yn ystod adeg sychder mae nerth yr afon danddaearol yn gyson. Mae'r daearegwyr sydd yn gweithio yno yn tybio mai o Lyn y Fan y daw'r dŵr, am fod lleoliad y ddau le mor agos i'w gilydd. Mae'r cyfan, felly, yn sail i'r cysylltiad sydd rhwng Llyn y Fan â'r ogofeydd ger Abercrâf.

Pe baech yn gwrando ar y sawl oedd yn eich arwain o amgylch llwybrau cymhleth Dan yr Ogof, 'rwy'n siŵr y byddech wedi ei glywed yn egluro sut cafodd yr ogofeydd hyn eu darganfod.

Un diwrnod fe aeth perchen y tir - lle 'roedd yr ogofeydd bryd hynny yn bodoli oddi tano - gyda'i gi i ymyl y nant oedd yn llifo allan o'r mynydd. Yn sydyn fe ddiflannodd y ci o'r golwg o dan y dŵr. Yn ei bryder i arbed yr anifail rhag boddi, fe ganlynodd y ci i mewn i bwllyn oedd yn y nant. Yna, heb yn wybod iddo, fe ddaeth allan i fagddu y tu draw i'r man lle diflannodd y ci. Trannoeth daeth yn ôl gyda goleuadau - a dyna pryd darganfuwyd golygfa syfrdanol Dan yr Ogof.

'Rôl cyfnod o amser fe ddarganfuwyd bod pobl wedi preswylio unwaith yn yr ogofeydd hyn. Erbyn heddiw fe adnabyddir un rhan ohonynt fel 'Ogof yr Esgyrn', sydd yn tanlinellu'r ffaith bod pobl wedi bodoli yno amser maith yn ôl.  Ie, ac yn ôl hen hanes y Celtiaid, 'roedd yna lwyth o bobl fach yn trigo yn y rhan hyn o Gwm Tawe - pobl nad oedd byth yn rhy barod i ddangos eu hunain. Gelwid hwy `y bobol fach ddu'. Y rhain, fwy na thebyg, oedd yn llechu o'r golwg yn ogofeydd Tan yr Ogof. Ond beth sydd a hyn i wneud â chwedl Llyn y Fan?

Gyda threigliad amser, wrth i chwedlau gael eu hadrodd ar lafar o oes i oes, mae'n ddigon dealladwy i resymu bod y bobol fach a ddaeth allan o'r dŵr ger yr ogofeydd, wedi cael eu cymysgu i fyny gyda'r sawl a ddaeth allan o ganol Llyn y Fan. Ac fel y mynegir eisoes mae'r ddau le yn ddaearyddol agos, gyda'r dŵr yn diflannu o un man i'r llall. Maent yn dweud bod ffaith yn aml iawn yn hynotach na rhamant. Felly, fe hoffwn ofyn a'i rhamant yw chwedl enwog Llyn y Fan?

Ysgrifennodd Brutus, bardd o'r cyfnod am Garnhuanawc, ei fod fel un a adawodd oleuni o'i ôl i eraill ddilyn. Gobeithio `mod innau, trwy drosglwyddo'r chwedl hon - a oedd hefyd gymaint rhan o'i draddodiad yntau - wedi llwyddo canlyn ei lwybr?

 

Hafan

Hosted by www.Geocities.ws

1