Cymdeithas Carnhuanawc
Eisteddfod Casnewydd 2004
“Carnhuanawc
ac Eisteddfodau’r Fenni” oedd testun
anerchiad ein siaradwr gwadd Hywel
Teifi Edwards. Yn ei ffordd unigryw
daeth a rhwysg a sblander yr eisteddfodau hyn yn fyw iawn i ni’r gynulleidfa
ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Casnewydd 2004.
Llun: Hywel Teifi Edwards, Keith Bush ac Alan Jobbins
Cinio Blynyddol – Tachwedd 2004
Hwn oedd ein trydydd cinio blynyddol yng
Ngwesty’r Churchills, Caerdydd, ac unwaith eto daeth criw da ynghyd i
fwynhau’r noson. Ein gwr
gwadd oedd y Dr Harri Pritchard Jones ac addas iawn, a chymeryd i
ystyriaeth y dyddiad, oedd iddo olrhain hanes erledigaeth y pabyddion
Cymreig fel Gruffudd Roberts a Morys Clynnog.
Yn sicr cawsom rhywbeth i gnoi cil |