Cymdeithas Carnhuanawc

Gwibdaith Haf 2005 i’r ‘Per Gwm’  dan arweiniad Keith Bush
‘Y Pêr Gwm’ oedd Cwm Nedd.  Dechrau bore 14eg o Fai yn griw chwilfrydig  heb fod yn siwr pa ddirgelion oedd ynghudd yn y cwm hwn.  Aros gyntaf wrth  adfeilion hen blasty Aberpergwm cartref Maria Jane Williams, un o gyfeillion dawnus  Carnhuanawc, cefnogwraig frwd Eisteddfod Y Fenni a chasglwr alawon gwerin ein gwlad.  Yn eglwys fach dwt Aberpergwm ynghanol y coed gerllaw roedd arfbais y teulu cefnog a dylanwadol hwn ac yma yn y fynwent roedd bedd  Maria er bod y gofgolofn arni yn dirywio.

O dawelwch Aberpergwm i weld olion yr hen waith copr yn Aberdulas sydd bellach wedi ei throi’n amgueddfa.

Teithio i lawr y cwm a synnu gweld adfeilion trawiadol Abaty Nedd ynghanol stad ddiwydianol.  Beth fyddai Lleision, yr hen fynach olaf i adael, yn ei feddwl tybed? 

Diolch i Keith am daith ddiddorol ac addysgiadol.

 

tudalen hafan

 

Hosted by www.Geocities.ws

1