Cymdeithas Carnhuanawc

Nod ein Cymdeithas yw hybu diddordeb yng ngwaith a bywyd Carnhuanawc - Thomas Price (1787-1848).   Roedd Carnhuanawc yn offeiriad yn Llanfihangel Cwm-du, Brycheiniog ac yn ffigwr amlwg ym mywyd diwyllianol Cymru y cyfnod. 

Ei orchest fwyaf oedd ei lyfr “Hanes Cymru”, yr ymgais gyntaf i olrhain gwreiddiau a datblygiad y genedl Gymreig mewn modd systematig wyddonol.  Cyhoeddwyd y llyfr mewn rhannau rhwng 1836 a 1842.  Dangosodd i bobl Cymru eu lle unigryw yn hanes Ewrop fel etifeddwyr a dehonglwyr llenyddol, cerddorol ac artistig y traddodiad Celtaidd.

Roedd hefyd yn draethodydd, areithiwr, addysgwr, hynafieithydd, ieithydd arlunydd a cherddor.  Roedd yn ffigwr o bwys yn atgyfodi’r eisteddfod ac yn amlwg iawn yn eisteddfodau’r Fenni a defnyddiodd ei llwyfan i hyrwyddo parch  tuag at iaith llenyddiaeth a cherddoriaeth Cymru.

Dadleuodd dros gael addysg ar bob lefel, o ysgol y pentref i’r brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.  Helpodd, drwy’r Gymdeithas Alawon Cymreig i ddiogelu cerddoriaeth werin Cymru a sicrhaodd drwy’ r Gymdeithas Lawysgrifau Gymreig, y bu’n gyfrifol am ei  sefydlu, bod llawysgrifau amhrisiadwy o’r canol oesoedd yn cael eu diogelu, ac ar gael i’w hastudio.

O’i gartref yn Llanfihangel Cwm-du, Brycheiniog ble roedd yn offeiriad y plwyf, ysgrifennai at ddeallusion led led Ewrop a theithiodd yn  eang drwy Brydain ac Ewrop yn chwilio am wreiddiau Celtaidd ei bobl.  Dysgodd Lydaweg a  chydweithiodd gyda Le Gonidec i gyfieithu’r Beibl i’r Lydaweg.

Parha ei fywyd i ysbrydoli pobl Cymru i ymladd am ymwybyddiaeth ehangach o’u hunaniaeth ac am barch teilwng i’w hiaith a’u diwylliant.

tudalen hafan

Hosted by www.Geocities.ws

1