Maniffesto Palma de Sant Just
Pam y mae hi'n bwysig i siarad Cymraeg yn America neu yng Nghanada neu yn Awstralia neu yn Seland Newydd neu ym Marselona?  Cwestiwn gorila wyth can pwys yw e.  Yn y lle cyntaf, am ei bod hi'n bwysig, ac yn ail, am ei bod yn ein gallu i wneud felly.
Ffenestri yw ieithoedd marw, ond drysau yw'r rhai sydd cael eu harfer o hyd. Mae hi'n wir nad yw'r drysau i gyd yn agored i'r ystafelloedd enfawr, ond nid oes ots am hynny.  Mae'r byd yn llawn o gorneli bach sydd yn haeddu ymweliad.  Cornel bach yn y byd mawr yw'r Gymraeg, ond dyna'r cornel lle y mae ein hanfod.  Mae'r ffenestri yn iawn fel ffenestri.  Mae hi'n bosibl gweld beth sydd y tu  mewn i'r tai trwy'r ffenestri, ond os bydd dyn am fynd i mewn i'r ty, mae rhaid wrth ddrws.
Meddu ar allwedd i'r drws hwnnw yw'r modd i gynnal yr hen iaith, ond nid pawb biau'r allwedd i'r  drws arbennig hwnnw.  Mae rhaid i ni gofio nad oes ond miliwn o bobl yn y byd sydd yn gallu agor y drws yma.  Ein hallwedd ni yw hi.
Yn anffodus mae llawer yn meddwl ei bod yn bosibl mynd trwy'r drws hwnnw heb allwedd.  Maent yn honni nad oes raid wrthi am ei bod yn bosibl siarad � Chymry yn yr iaith fain.  Ydy, ond drws arall yw'r Saesneg.  Mae hi'n amhosibl mynd i mewn i'n cornel ni yn iaith y Sais.  Un peth yw cyfathrebu, ond peth arall yw sgwrsio
Mae'n amhosibl wrth gwrs fyw yn Gymraeg yn unig.  Heddiw mae'n amhosibl byw trwy gyfrwng un iaith yn unig.  Mae'r byd wedi newid, ond serch hynny ni ellir dweud bod gennym lai o hawl i ddal i arfer geiriau ein mamguod. 
Bydd hi'n bosibl i ni fyw mewn ty a dau drws a bydd yn bosibl i'r to nesa wneud felly hefyd.  Y cwbl y mae rhaid i ni ei wneud yw gofalu am ein haelwyd ieithyddol.
Rhaid i ni adael daearyddiaeth i'r rhai sy'n poeni am ffiniau.  Rhaid i ni adael ystadegaeth i'r rhai sy'n poeni am ganrannau.    Nid yw'n bwysig yr hyn y maent yn ei feddwl yn Llundain neu yn Efrog Newydd neu yng Nghaerdydd.  Medrwn greu yn eithaf hawdd sefyllfa lle mae'r Gymraeg yn gyfrwng fel Yiddish.  Y cwbl sydd raid yw i ni ddal ymlaen i wneud yr hyn y gallwn ei wneud yn awr.  Siaradwn ein hiaith bob amser, ac ni chaiff neb gau ein drws ond y ni.
Siaradwch Gymraeg! 
Siaradwch Gymraeg!
Siaradwch Gymraeg!
Hosted by www.Geocities.ws

1