jocs
Roedd hen ddyn ar fin marw.  Tra roedd e'n gorwedd yn ei wely, arogleuodd e rywbeth blasus iawn.  Roedd yr aroglau mor dda fel y  cododd yr hen foi a llusgo ei gorff lawr y grisiau trwy'r ystafell fwyta i'r gegin ble roedd ei wraig yn pobi.  Ar y bwrdd roedd plataid mawr o fisgedi.  Estynodd y boi ei law i gael gafael yn un.  Yn sydyn slapiodd ei wraig ei law, gan ei ddwrdio,  "Beth ych chi'n meddwl bod chi'n neud? I'r angladd maen nhw!"
ymlaen...
Yn ol
Mae dyn yn gyrru lan l�n gul.  Dyma ferch yn dod lawr yr un l�n.  Fel maen nhw'n pasio, mae'r ferch yn rhoi ei phen mas o'r car a gweiddi, "Mochyn!"  Ar hyn, dyma'r dyn yn rhoi ei ben yntau mas o'i gar a gweiddi yn �l, "Yr hen ast!" Ac ymlaen ag e.  Ond wrth rowndio'r cornel nexa, Clec!  Mae e'n bwrw lawr mochyn ar y ganol y l�n.
Hosted by www.Geocities.ws

1