Gig Cwps 7fed o Fawrth
Mae'r deunydd canlynol mynd i fod yn eitha trawiadol felly os ydych chi bach yn wan eich ystumog peidiwch a darllen isod!
Hoffwn gychwyn gan ddiolch i rai o aelodau o staff NAD oedd yn hollol annobeithiol ar y noson! Mi oeddech chi'n gret ac mi aeth y rhan fwyaf o bethau'n iawn, a dydyn ni ddim yn gweld unrhyw fai arnoch chi!


HANES Y GIG - O'R CYCHWYN GOBEITHIOL I'R DIWEDDGLO TRYCHUNEBUS!

Cyrhaeddodd Rhys a Cai rhywle o amgylch 5 (hoffwn gofnodi ar y record fod Cai yn barod yn arddangos ei het enfawr, las, ddrwllyd Fosters! Honestly ma'r boi yn obssessed da cwrw!). Cyrhaeddom ni jest mewn pryd pan odd Dryden PA wedi gorffen rhoi y speakers fynnu "Hit it Rhys" (cyfieithiad i chi sydd ddim yn deall 'Drydenspeak' odd en golygu gwasga play). Ymlaen ar PA, odd dryden wedu cuo y CD yn y lle iawn....
wwwwwwwwooooooo LIVING ON A PRAYER!
!!O HYN YMLAEN ROEDD HI'N AMLWG I BAWB WYBODUS SIOE PWY OEDD HI MYND I FOD HENO!! Y DA Y DRWG AC YR HYLL - ROEDD HI'N "ROCK AND POP TIME' YN Y CWPS Y NOSWETH HONNO!
Bu rhaid i ni ddioddef cerddoriaeth Stadiwm Roc am weddill y nosweth, gan gynnwys remix Dryden ei hun o Let me Entertain you. "Ive edited it so it goes straight to the chorus after the intro - and its really tight!" Wel da iawn ti Mark ti'n callu defnyddio cut, paste a copy ar dy fini disg! Tra oedd em ni'n clywed robbie ar ol robbie a bon jovi ar ol bon jovi dyna ble roedd en eistedd ar ei din yn yfed cwrw yn ceisio clochdar am pam mor dda ydio tra oeddem ni gyd yn settio fynnu er mae fe oedd y peiriannydd sain!

Yn y cyfamser roedd ei so called ffrindiau lawr llaw yn y bar yn ei alw'n "talentless prick"! Wedyn pan oeddem ni gyd yn dechrau panicio, gydag dim ond 10 munud i fynd cyn bod y drysau yn agor y PA ddim yn barod a neb wedi cael soundchek, nath Dryden dechre stresso "Why's this all being done now?", "I haven't got time for this","It's not my problem Huw, it's not my amp" ac wrth gwrs ei glasur "Why does everything i do turn to Sh*t!". Wir i chi roedd y boi wedi bod yn eistedd lawr yn yfed ers dwy awr a gneud dim byd ac wedyn odd en stresso! Eventually mi oedd popeth yn barod ac roeddem ni wedi cael ein soundcheck, ugain munud ar ol pryd oeddem ni'n fod i ddechre chware go-iawn! Roeddem ni fod yn fyw ar Radio Ceredigion! Yna penderfynnodd o band o Lerpwl "Cracatilla" bod nw isho sounchek hefyd! So dyma ni'n gorfod
(Uchod mae llun o Flawed y band o Fanceinion, cymerwyd y llun tra oedd Dryden yn danfon gormod o gerrynt trydanol trwyr gwefrau!)
datgymalu yr hyn netho ni wario tua awr yn setio fynnu er mwyn i Caracatilla settio stwff nw fynnu chwarae un can i chekio ac yna ni'n gorfod settio fynnu am yr ail dro ochos mae ni odd mlan gynta! dyma ni ar fin dechrau chwarae go-iawn! O NA NOT AGAIN! Doedd y deks na amp Rhys wedi ei gysylltu i'r PA, hmmm gadewch ni feddwl, pwy oedd yng ngofal hyn?!?!?? Ie na chi DRYDEN!!!!!
(Cracatilla - y band o Lerpwl)
Un peth da ddath mas o'r gig oedd y nifer o bobl oedd yna weld GHR2, odd y lle yn paked. Yn anffodus roedd 80% o'r dyrfa wedi mynd erbyn i Fozz fynd mlaen am 11.30 eitha doniol gan ystyried fod 100% oedd yna i weld ni mewn gwirionedd wedi dod i weld Mozz!!!! Erbyn hyn roeddem ni gyd wedi cael digon, ond yna daeth newyddion gwych i gwrdd a GHR2, yn erbyn y disgwyl gaethom ni ein talu, ond nid dyna oedd y newyddion doniolwych (nachi derm newydd) y newyddion doniolwych oedd fod trefnwyr y gig mynd i wrthod talu Dryden!!!!!!!!! ac yna dyna Dryden yn troi at ei ffrind a dweud:
"It's easier not to argue!"
Isod ceir crynodeb o'r noson!
Hosted by www.Geocities.ws

1