Hanes cryno GHR2
Biwgraffiad y Band
Yn y dechreuad yr oedd y gair, a'r gair oedd gyda Huw. (dyfalwch pwy sgwennodd y bit hyn)
   Huw'n cael bass newydd yn nadolig Blwyddyn 8, a Mrs Llwyd yn dweud "Ooh, bois, allwch chi ffurfio band nawr. Y bois yn mynd "ym....ie, ok". Cael practis cyntaf gyda Cynyr 'Hedd' Rhys yn canu a Rhodri 'Rhyfel' Shaw yn chware drums. Tudur Hallam yn ein hyfforddi. Chware yng nghystadleuaeth yr Urdd, ond gollon ni.
Yna ennill enwogrwydd drwy'r ysgol wrth chware mewn Sesiwn Jamio gyda Band Aled Evans a Dyfan. OND, ychydig yn ddiweddarch, Rhodri'n gadael / cael ei daflu allan (dibynnu pwy chi'n credu). Felly Cynyr yn chware drums, a cael 4 merch bert IAWN i ganu. Dim ennill yn yr urdd eto, felly cael gwared o nhw. Sori. (Dy nhw dal heb faddau i ni).
"Yna mewn fflach o ysbrydoliaeth, dyma ni yn holi i Robin, o'r blaned Rob, i chware dryms i ni. Nid band cyffredin mohono ni bellach, ond GHR2" (neu Double Vision ar y pryd hyd yn oed)
Gwion yn troi lan ym Mhenweddig ym Medi 2001, a gan fod da fe gitar, gofyn iddo fe ymuno. Rodd en methu chware dim, ond un dydd, dath e lan a intro Seithenyn, a nawr ma pawb yn lyfo fe. (Fi mor jealous)
Archif gryno



Tachwedd '99 - Perfformiad cyntaf GHR2.

Ebrill '00 - Perfformio yng ngwyl fringe Machynlleth.

Hydref '00 - Perfformiad cyntaf Gwion gyda'r band.

Tachwedd '00- Recordiad byw cyntaf GHR2 yn cael ei wneud, shocking stuff!

Ebrill '01
- ymddangos ar 'Gang Bangor' Radio Cymru.

Mehefin '01 - ymddangos ar 'Uned5' S4C.

Mehefin '01 - Drydenfest, gig mwya'r band mor belled.

Hydref '01 - Recordiad byw yn cael ei wneud.

Tachwedd '01 - Recordiad byw arall.

Tachwedd '01 - Recordio demo 3-trac.

Rhagfyr '01- Drydenfest II, gig yn neuadd fawr Averystwyth.

NI WEDI NEUD MWY, OK, FI JYST DDIM YN BOTHERED I TYPO MWY O STWFF MAS!

Hosted by www.Geocities.ws

1