Lluniau Eraill
(chwith)
Robin a Huw ar daith GHR2 i'r Weriniaeth Tsiec, haf 2001. Fe ddychwelodd y band i'r Weriniaeth Tsiec ym mis Hydref 2001. Ar ol i'r band chwalu mae Gwion yn bwriadu symud i fyw i Fohimia!
(de)
Pasg 2001. GHR2 yn aros yn eiddgar i griw ffilmio Barcud ddod i ffilmio'r band, 'tv job' cynta'r band. Cyrhaeddon nhw 45munud yn hwyr, typical cyfryngis!
(isod)
Les Paul Black Beauty, un o gitars Rhys
(chwith)
Rhys yn ardal y llynodd, diwedd haf 2001. Does dim arwyddocad i'r llun ac nid yw'r llun unrhywbeth i wneud a'r band, mae'r llun yn cynrhychioli unrhywbeth yr hoffech iddo gynrhychioli. Felly llun dibwys i gal ar y wefan ydyw, ond mafe'n edrych yn cwl! nagiw e?
(de)
Huw, Robin a Rhys yn dychwelyd ar y fferi ar ol taith haf lwyddianus y band i'r Weriniaeth Tsiec.
(isod)
Un o Rodies GHR2
(de)
Aberystwyth, cartref ysbrydol GHR2. Edrychwch ar brydferthwch y lle! Nid yw'n syndod fod y lle'n rhoi gymaint o ysbrydoliaeth i'r band. Sylwch ar yr adeilad ar ben deheuol y llun (hy agosaf at waelod y llun). Ar hyn o bryd mae'r adeilad enfawr ysblenydd hon yn adfail ac yn cwympo i lawr, OND ar ol i ddyddiau GHR2 ddilyn llwybr George Harrison mae Rhys o'r band yn bwriadu prynu'r adeilad ai droi yn stiwdio a llety i'r di-gartref! Dwi'n siriys! Os sylwch chwii ar y pier, dyna ble ma Robin a Gwiz am fynd i fyw. Ac ym mhen pella'r llun gwelch adfeilion y castell, mae Huw yn bwriadu ail adeiladu'r castell a symud i fewn ar ol iddo ymddeol!
Hosted by www.Geocities.ws

1