Caneuon GHR2
Caneuon y band yn y drefn gronolegol y cyfansoddwyd hwynt:

Yr Anthem (GHR2 a Hallam, gaeaf '98)
Can wreiddiol gyntaf GHR2, enw y band ar y pryd (Ionawr '98) oedd 'llinell syth', wath na GHR2! Athro gitar Rhys ar y pryd, Tudur Hallam (y bardd!) cyfansoddodd yr alaw mewn gwirionedd, ond dros y blynyddoedd esblygodd GHR2 y gan i fod yn dra wahanol i'r hyn gyfansoddodd Tudur blynyddoedd yn ol. Geiriau buddigoliaethus am 'fod mewn band' ydy'r geiriau, tebyg i eiriau Breuddwyd Roc a Rol gan Edward H. Daeth teitl y gan gan ffrind da i'r band Cezza J, doedd dim teitl i'r gan ac mewn un gig brandiodd ef hi fel 'Yr Anthem', oherwydd dyna oedd  anthem GHR2 mewn gwirionedd, y gan gyntaf ar gan oedd yn diweddu bob set - hyd heddiw!
    

Beth? (Llwyd, gwanwyn '00)
Can gyntaf Rhys, mae'n defnyddio runion run cords a 'Hero' gan Enrico Inglesiais, oedd ar frig y siartiau Brydeinig am wythnosau llynedd! Cyfansoddwyd 'Beth' tua 3 blynedd cyn 'Hero'! Hon oedd can wreiddiol gyntaf y band wedi iddynt ymbellhau oddi wrth Tudur, tan i ''Beth' gael ei chyfansoddi doedd dim can hollol wreiddiol gan y band. Syniad gwreiddiol Rhys oedd bod y gan hon yn un Acwstic (wedi ei ddylanwadu gan LP Travis, The Man Who), one rodd en ormod o hassle i newid gitar ganol ffordd drwy'r set felly penderfynwyd stikio gyda'r gitar drydan a defnyddio 'cordiau pwerus' yn y gytgan. "Benthycwyd" yr intro gan Oasis, y gan 'what's the story morning glory'. O leia ma nhw'n onest!

Stim Ots Da FI! (Llwyd, gwanwyn '01)
Aeth blwyddyn heibio heb gan newydd, yna erbyn Pasg 2001 cyfansoddwyd Stim Ots Da Fi! Can bop roc ydy hon mewn gwirionedd, yn seiliedig ar gordiau Mery Jane gan Gwacamoli ond yn cael ei chwarae yn steil Ash.

Americanwyr (Llwyd, haf '01)
Roedd Rhys adref yn adolygu ar gyfer ei DGAU's, yng nghornel ei ystafell oedd ei gitar Acwstic, ar ei wal roedd list or gwledydd roedd America wedi bomio ers 1945 - lot o wledydd credw chi fi! O fewn eiliadau roedd y nodiadau am osmosis a pheristalsis yn domen ar y llawr! Roedd Rhys yn strymio! Ganwyd AMERICANWYR can 'aeddfed' gyntaf y band sydd yn 'anthemic' ac yn trafod gwleidyddiaeth gul yr Americanwyr. Gwnaethpwyd y perfformiad byw cyntaf yn Drydenfest I.

Pop Song (Llwyd, diwedd haf '01)
Roedd Rhys newydd gael meddalwedd recordio ar ei gyfrifiadur, felly megis ffrwyth arbrofi pur oedd y gan hon. Galwyd ef yn 'Pop Song' oherwydd roedd y demo yn swnio'n popy ty hwnt, defnyddiodd Rhys sawl gimic tra'n recordio oedd yn nodweddiadol o record bop. Ond ar ol i weddill y band gyfrannu eu gwreiddioldeb i'r gan trodd y gan o fod yn gan bop i fod yn gan roc ffwnc, ond parha'r teitl fel parody.

Styc (Llwyd/Thomas, diwedd haf '01)
Cyfansoddodd Huw y gytgan ond methiant oedd troi riff y gytgan yn gan gyflawn am fisoedd. Wedi i Rhys feddianu'r cyfarpar i recordio demos recordiodd riff Huw ac yna gweithio arni a chyfansoddi pennill. Hon yw can hevy y band, yr headbanger!

Anghyfiawnder (Llwyd, gaeaf '01 )
Dydy Rhys ddim yn cofio dim ynghlyn a chyfansoddi y gan yma! Ond fe recordiwyd dau ddemo ohoni, un trwm ac un acwstig.

Bysgio (Llwyd, gaeaf '01)
Bore gwasanaeth Nadolig Penweddig 2002 oedd hi, cyrhaeddodd Huw a Rhys yn gynnar, allan o ddiflastod penderfynwyd mynd i siarad gyda'r anffodusion oedd yn chwarae gitar tu allan y band. Gath Huw a Rhys Jam bach da nw. Can yn adrodd hanes y digwyddiad hynod hwn ydyw'r gan hon.

Tecnogawr (Llwyd, gwanwyn '02 )
Enillodd Rhys dlws y cerddor (yn 2il oedd Gwion, 3ydd Huw - band talentog!), mae'r gan yma yn arbrofol ac yn seiliedig ar gordiau ei gyfansoddiad buddigol. Mae geiriau'r gan yn son am helynt nain elefn.

Y ffordd i ni (Llwyd, gwanwyn '02)
Can gyfansoddodd Rhys fel ymateb i Tecnogawr, ple roedd Tecnogawr yn hynod o arbrofol aeth Rhys nol i'w wreiddiau gyda'r gan yma, pop roc syml. Nid yw'r gan yma erioed wedi ei pherfformio'n fyw, mae Rhys yn ei chadw hi ar gyfer can i Gymru.... joc joc!

Instrumental (Thomas, haf '02)
Riff Led Zepaidd iawn gan Huw ydy'r gan yma mewn gwirionedd, hon sy'n agor y set fyw ac mae hi'n llifo i fewn i Styc yn berffaith.



Hosted by www.Geocities.ws

1