Magwyd Dylan yn Rhosllanerchrugog ger Wrecsam, yr ifancaf o bump o blant. Teulu anghyffredin braidd, gan fod gan Dylan efell. Hefyd mae ganddo ddwy chwaer sy’n efeilliaid a brawd. Gofynnodd i fodryb un tro beth oedd ymateb ei fam pan clywodd ein bod yn disgwyl gefeilliaid am yr ail waith? Dagrau oedd yr ateb. Mae Dylan yn sicr mae dagrau o lawenydd oeddent!

 Cerddoriaeth fu cariad cyntaf Dylan erioed ac fe’i magwyd mewn teulu cerddorol. Symudodd i Lundain pan oedd yn ddwy ar bymtheg i astudio yn y Laban Centre for Movement and Dance. Fu yno am dair blynedd. Enillodd ysgoloriaeth i weithio gyda Moving Being Theatre Company yng Nghaerdydd, ac yn y brif ddinas mae Dylan wedi  ymgartrefi; mae’n byw yno gyda’i wraig June a’i ferch Ffion.

 Fel canwr a chyfansoddwr ifanc ymunodd Dylan gyda ‘Lynden Lewis a’r Jazz Ensemble Heavy Quartet’. Fu’r grwp yma yn cyfeilio i Dylan am flynyddoedd a chynhyrchwyd sawl demo tra’n perfformio o amgylch Caerdydd. Mae Dylan hefyd yn teimlo dyled fawr i aelod arall o’r Heavy Quartet am ei frwdfrydedd a’i ddawn,sef  Rob Smith.

 Mewn amser sefydlodd Dylan y grwp ‘Dylan Davies a’r Criw’ gyda Dafydd Saer, Dafydd Wyn a Simon Adams. Dros y blynyddoedd fe newidodd yr aelodaeth, a bu Paul Phillips, John Rea, Neil White, Paula Williams ac eraill yn rhan o’r Criw. Defnyddiodd Dylan amryw gerddor a cherddor sesiwn ar gyfer prosiectau a recordio pan fu angen.

 Ar label Sain fu’r recordiau cynnar ac mae gobaith am ail-gyhoeddi y recordiau yma ar cd yn y dyfodol agos. Recordiwyd Yr Afon ar label Fflach, ac mae Dyfnach Na Dwfn ar label Naws. Label Dylan ei hun yw Naws ac ar y label yma fydd y cd sy’n cael ei recordio ar hyn o bryd yn cael ei gyhoeddi.

 Roedd Dylan yn aelod o’r grw p traddodiadol Carreg Lafar tan yn ddiweddar, a bu’n teithio gyda’r band dros y byd gan gynnwys Llydaw a Gogledd America. Penderfynodd adael y grwp i ganolbwyntio ar ei gerddoriaeth ei hun.

 Mae’n anodd penderfynu pa fath o gerddoriaeth mae Dylan yn cynhyrchu ond wrth wrando arno mae’n amlwg fod jazz, roc, soul a gwerin wedi dylanwadu arno. Beth sy’ ddim yn anodd ydy cydnabod mae llais Dylan yw ei gryfder mwyaf. Mae gan Dylan y ddawn i ysgrifennu caneuon hyfryd a thrawiadol ond yn bennaf mae ganddo’r ddawn i ganu gyda llais eglur a theimladwy, llais sydd yn dod o’r galon. 

 

COPA

© twndish 2003

 

Hosted by www.Geocities.ws

1