Cymdeithas Gymraeg Beddllwynog
Yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn ardal Cwm Bargoed-Taf
HAFAN
CADEIRYDD: Y Parch. Ray Vincent
Yn wreiddiol o Abertileri mae Ray wedi byw ym Meddllwynog ers sbel nawr. Dysgodd e Gymraeg ym Mangor ac mae e'n pregethu yn aml o gwmpas cymoedd y De. Etholwyd fel Cadeirydd yn 2007.
YSGRIFENNYDD: Rob Lewis
Mae Rob yn dod o Rymni yn wreiddiol ac mae e wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 3 blynedd. Mae ei wyrion yn mynychu Ysgol y Lawnt. Etholwyd fel ysgrifennydd yn 2005.
TRYSORYDD: Matthew Richards
Yn wreiddiol o Feddllwynog a chyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Afon Taf mae Matthew yn astudio economaidd ym Mhrifysgol Cymru Abertawe. mae e wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 3 blynedd.
Aelodau'r Pwyllgor
Angela Gerrard: Athrawes ydy Angela sy'n byw ym Mhontypridd gyda'i chariad Gareth. Yn wreiddiol o Stoke-on-Trent mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Mae hi'n ymwelydd cyson i Glwb-y-Bont.

Robert Hughes: Athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Tredegar ydy Rob sy'n dod yn wreiddiol o Reading. Ymddangosodd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2005. Mae Rob yn dysgu oedolion ym Meddllwynog.

Adrian Link: Un o Feddllwynog ydy Adie ac mae e'n gweithio fel trydanwr yng Nghasnewydd ar hyn o bryd. Mae Adie wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2 flynedd.
Hosted by www.Geocities.ws

1