| Tudalen Hafan OF | OF Home Page |OF Cymru/OF Wales What do we think? / Beth am OF?|

Cyfeillion Rhyngwladol - Cymru
Operation Friendship - Wales

 CYFLWYNIAD  INTRODUCTION
 Mae'r tudalen hwn wedi ei anelu at rieni a phlant a fyddai efallai â diddordeb mewn ymuno â chynllun sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc gyfnewid gwyliau gyda chymheiriaid mewn gwledydd tramor. Cynhwysir yma fanylion am batrwm y gweithgareddau dros gyfnod o ddwy flynedd - blwyddyn y derbyn a blwyddyn y teithio. Ein bwriad yw eich cyflwyno i ddigon o wybodaeth a fydd yn gymorth i chi ystyried y gwahoddiad.

Partneriaeth rhwng rhieni a'u plant yw OF, partneriaeth sydd yn cyfoethogi bywyd y teulu a'r cyfranogwyr unigol. Gallwn sicrhau dwy flynedd fywiog, llawn hwyl a chymdeithas gynnes. Ymunwch â ni trwy gysylltu ag un o'r swyddogion sy'n llywio cangen Caerdydd o Gyfeillion y Cyfnewid.
 This page is aimed at parents and young people who are interested in participating in an exchange holiday with young people from abroad. Here we have included details about the type of programme that is organised over a period of two years. Our aim is to provide you with enough information to help you decide whether or not to join us.

OF is a partnership between parents and their offspring, a partnership which can enrich family life and individuals. We can guarantee two lively years with plenty of fun and a warm group of friends. Join us by contacting any one of the group's officials here in Cardiff.
 HANES Y MUDIAD  OF HISTORY
 Ffurfiwyd y mudiad Cyfeillion y Cyfnewid neu OF (sef y talfyriad Saesneg) yn y flwyddyn 1964. Syniad gweinidog o'r Amerig, y Parchedig Wallace A. Shaw a weinidogaethai mewn eglwys yn Glenrothes yn yr Alban oedd y symbyliad gwreiddiol. Gobaith y ddelfryd oedd rhoi cyfle i bobl ifanc o un wlad i gyfnewid gwyliau gyda ieuenctid o wlad arall a dysgu am ddiwylliannau gwahanol trwy ddatblygu cyfeillgarwch gyda'u cymheiriaid mewn gwledydd tramor.

Aeth y gwahoddiad i ymuno yn y fenter hon i'r Amerig yn Hydref 1964. Mrs. David Anderson a'i gweinidog y Parchedig Robert L. Blackwell yn Eglwys Bresbyteraidd Kearny, New Jersey oedd y ddau a roddodd gyfle i'r syniad fwrw gwreiddiau. Yn fuan wedyn fe sefydlwyd cangen yn Eglwys Gynulleidfaol,Palmer,Massachusetts o dan arweiniad y gweinidog y Parchedig Guthrie R. Schwartz.

Teithiodd y ddirprwyaeth gyntaf i'r Amerig yn y flwyddyn 1965 pryd y croesawyd tri gðr ifanc o'r Alban i'r eglwysi yn Kearny, New Jersey, a Palmer, Massachusetts. Y flwyddyn ddilynol ymwelodd ieuenctid o'r Taleithiau â Glenrothes yn yr Alban. Roedd OF wedi bwrw i'r dwfn ac ar y ffordd i bethau mwy.

Tyfodd y mudiad yn gyflym. Roedd rhaglenni cyfnewid gyda Sweden yn y flwyddyn 1966 gyda Iwerddon yn dilyn yn 1970. Erbyn hyn mae 12 o wledydd yn y Cynllun Cyfnewid.
  Operation Friendship originated in 1964. It was the brainchild of Rev. Wallace A. Shaw, an American minister at St. Margaret's Church of Scotland in Glenrothes. It was his desire to develop a youth exchange enabling the youth of one country to learn the different cultures of other countries and develop friendships around the world.

The invitation to participate in the idea was brought to the United States of America in the fall of 1964 by Mrs. David Anderson who shared it with her pastor, Rev. Robert L. Blackwell, the pastor of the First Presbyterian Church in Kearny, New Jersey and the Second Congregational Church, Palmer, Massachusetts throgh its pastor, Rev. Guthrie R. Swartz.

The first delegates of Operation Friendship journeyed from Scotland to the USA in 1965. The three youths were hosted by the Presbyterian Church in Kearny, New Jersey, and the Second Congregational Church, Massachusetts. The following year youth from New Jersey and Massachusetts visited Glenrothes, Scotland. Operation Friendship was off and running.

Growth of OF was rapid. There were exchange programmes with Sweden in 1966 and with Ireland in 1970. Now there are 12 participating countries:
 OF - PEIRIANWAITH Y MUDIAD  OF - ORGANISATION STRUCTURE
  1. Y Cyfarfod Rhyngwladol
Dyma'r cyfarfod blynyddol sy'n ymgynnull yr wythnos wedi'r Pasg gyda thri chynrychiolydd swyddogol o bob gwlad sy'n aelodau o'r mudiad. Fe'i cynhelir ym mhob gwlad yn ei thro. Mae'n cyfarfod er mwyn trafod materion perthnasol i'r mudiad cyfan. Mae pob gwlad yn cyfrannu tâl aelodaeth blynyddol o £40.

2. Y Cyfarfod Cenedlaethol

Yng Nghymru byddwn yn cyfarfod yn flynyddol, fel arfer yn yr hydref, i drafod y gwaith yng Nghymru. Rhaid i bob cangen dalu tâl aelodaeth blynyddol o £25.

3. Y Gangen Leol

Yng Nghaerdydd, dyma'r cyfarfod o'r grðp cyfredol, yn ieuenctid a rhieni. Byddwn yn cyfarfod yn ôl y galw er mwyn trefnu'r rhaglen yn y flwyddyn gyntaf neu i drefnu'r daith yn yr ail flwyddyn. Mae ymuno ag OF yn golygu eich bod yn rhan o'r gweithgareddau am ddwy flynedd. Mae rheolau pendant am oedran. Rhaid i aelod ifanc fod yn 15 oed ym mlwyddyn y teithio.
 1. International Meeting
This is the annual meeting, the week after Easter, with three official representatives of each participating country. It is held in a different country every year. It meets to discuss items which concern the whole organisation. Each member country pays an annual membership fee of £40.

2. The National Meeting

In Wales this meets annually, usually in the autumn, to co-ordinate the work of the branches in Wales. Each branch pays an annual membership fee of £25.

3. The Local Branch

In Cardiff this is the local meeting of the current group of young people and their parents. We meet as often as is necessary to organise the hosting programme or to prepare for travelling. Taking part in an OF programme means a family commitment for two years. Age limits are important. A member must be 15 years old before July 1st of the travelling year.
crifice and OF should be available to one and all.
 Y FLWYDDYN GYNTAF  THE FIRST YEAR
 Yn ystod y flwyddyn hon bydd y grðp yn paratoi rhaglen dair wythnos. Fel arfer bydd y teuluoedd yn cytuno i gyfrannu swm penodol i'r gronfa (tua £200-£300) a bydd y gronfa yma yn talu am holl weithgaredd swyddogol y dair wythnos i'r ymwelwyr a'r aelodau ifanc. Os edrychwch ar y sampl o raglen fe gewch syniad reit dda o sut a ble y caiff yr arian ei wario. Rydym yn ddibynnol iawn ar gyfraniad rhieni, e.e. i yrru bysus mini, i ddarparu bwyd ac i arolygu gweithgareddau. Mae codi arian yn rhan holl-bwysig o'r gwaith. Gall hyn leihau costau yn sylweddol a hefyd mae'n dwyn teuluoedd at ei gilydd i gydweithio a chyfeillachu. Rhaid cofio wrth gwrs na fedr pob teulu ariannu ymgyrch fel yma heb gryn dipyn o ymdrech ac mae croeso i bawb i ymuno ag OF.  During this year the group prepares a three week hosting programme. Families usually agree to contribute a sum to the 'kitty', in the region of £200-£300, and this sum will cover the costs of the visitors and the participating youths during the summer programme. The enclosed copy of a programme should give you an idea of where and how the money is spent. We rely heavily on parent participation, e.g. driving mini buses, food preparation, supervisionFund raising is an important part of the schedule. This not only cuts down costs, it also brings a group of young people and their parents together and many firm friendships are formed. It must be remembered that not every family has the financial means to sign large cheques without much sa
 YR AIL FLWYDDYN  THE SECOND YEAR
 Dyma flwyddyn y teithio. Bydd grðp (heb fod yn fwy na 10 o ran rhif) yn teithio dan ofal arweinydd i UDA. Prif dasg y flwyddyn hon yw trefnu'r daith i'r ardal benodedig. Mae'r gost yn dibynnu ar y lleoliad. Yn amlach na pheidio, i Massachusetts y bydd y grðp yn mynd ond o dro i dro daw cyfle i fynd i Indiana. Bydd y grðp hefyd yn talu costau teithio yr arweinydd a fydd am y dair wythnos yn gyfrifol am yr ieuenctid ac yn delio ag unrhyw sefyllfa a all godi. Unwaith eto mae codi arian yn bwysig, am resymau amlwg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd costau hedfan tua £400-£500. Yn ychwanegol at hyn bydd angen arian poced ond telir holl gostau y rhaglen yn America gan y gangen yno.  This is the Travel Year. The group (usually not more than 10) prepare to travel to the USA with a local leader. All that needs to be done this year is the booking of a suitable flight to the named destination. The cost depends on where in the USA the group will be hosted. More often than not it is Massachusetts but every few years it is our turn to visit Indiana. The group also pays the flight costs of the leader who for the three week visit is responsible for the well-being of the young people. Fund raising is once more high on the agenda for obvious reasons. During the past few years flight costs have been in the region of £400-£500. On top of this, some pocket money will be required and once in America all costs are met by the local group.
 |Tudalen Hafan OF |OF Home Page
Hosted by www.Geocities.ws

1