CYLCH CINIO CYMRAEG CAERDYDD
1951 - 2002
Un o'r cylchoedd niferus ar hyd a lled Cymru o ddynion sy'n ymddiddori mewn pethau'n ymwneud â Chymru a'r Gymraeg yw Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd.
Amcan y Cylch yw hybu Cymreictod ymhlith Cymry Cymraeg a ddaw i gysylltiad â'r cyhoedd wrth eu gwaith a'u swyddi a pha ffordd well o nabod ein gilydd nag wrth bryd o fwyd?
Tua 40 o aelodau sydd yn y Cylch ac rydym yn awyddus i gynyddu'r nifer. Estynnir croeso cynnes i aelodau newydd, ac yn arbennig i ddysgwyr. Byddai'n ffordd ardderchog i ddyswr i ymarfer yr iaith. Bu'n arfer gennym ers blynyddoedd i gyfrannu at elusennau sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg, megis yr Urdd, Mudiad Ysgolion Meithrin, Y Dinesydd a'r Eisteddfod Genedlaethol ac i noddi dysgwr neu ddysgwraig ifanc o'r chweched dosbarth i ymweld â'r Eisteddfod neu Wersyll yr Urdd yn ystod yr haf.
Os oes gennych awydd ymuno â ni, cysylltwch â'r Ysgrifennydd:
Tony Couch, Ffôn 029 20 75 36 25
e-bost [email protected]