Cofio Cwpan Cymru


Dydi meddwl am y rownd derfynol Cwpan Cymru ddim yn dod ag atgofion rhy felys i Mark Aizlewood, un o sylwebyr pel-droed BBC Cymru.

"Roedd gen i gymaint o gywilydd ar ddiwedd feinal 1994 nes imi daflu'r fedal i mewn i'r dorf," meddai Mark a oedd yn chwarae i Gaerdydd ar y pryd.

"Roedden ni wedi cyrraedd y rownd derfnynol efo tim ifanc iawn, heb fawr o brofiad, ond roedden ni'n llawn hyder ac efallai mai dyna oedd y broblem," ychwanegai Mark.

"Yn ein wynebu ni roedd tim Y Barri ond ar gae mor fawr a'r Maes Cenedlaethol roedden ni'n gweld cyfle gwych inni ennill y Cwpan a chynrychioli Cymru yn Ewrop.

"Ond roedd Barri yn llawn o chwaraewyr profiadol iawn fel Terry Boyle a Keith Bertschin ac roedden nhw'n llawn haeddu ennill ar y dydd. Roedd y siom yn un ofnadwy i mi, ac roedd darllen y geiriau runners-up ar y fedal yn ormod i mi. Mi taflais i hi i mewn i'r dorf."

Bellach yn rheolwr a chwaraewyr gyda Chwmbran mae Mark yn cydnabod fod y ddau dim fydd yn chwarae ei gilydd bnawn Sul a haeddu'r cyfle a'r fraint o chwarae yn y rownd derfynol.

"Dwi'n cyfri'r fraint o chwarae yn y rownd derfynol yn 1994 fel un o uchafbwyntiau fy ngyrfa," meddai.

Mae holl chwaraewyr Cynghrair Genedlaethol Cymru eisiau chwarae ar y lefel ucha bosib ac, wrth reswm, does dim modd mynd ymhellach na'r rownd derfynol yma, felly dyma eu cyfle i ddangos eu doniau ar lwyfan go fawr ac, yn ychwanegol at hynny, mae na le yn un o brif gwpanau Ewrop y tymor nesa yn disgwyl y tim buddugol.

Ychwanegodd: "Wnaethon ni, Gwmbran, golli i Gei Conna yn rownd yr wyth olad. Roedden ni'n disgwyl ennill - neu o leia doeddan nid ddim disgwyl i colli ond, chwarae teg i Gei Conna, reodden nhw'n llawn haeddu'r fuddugoliaeth.

"Heblaw pob dim arall, roedd eu brwdfrydedd yn haeddu lle iddynt yn y rownd derfyonol.

Dywedood ei fod yn falch er mwyn y rheolwr, Graeme Sharp, fod Bangor yn y ffeinal.

"Mae na bwysau mawr wedi bod arno gyda chefnogwyr a chyfarwyddwyr yn disgwyl pethau mawr ond mae'r gemau yn y gynghrair wedi profi'n siomedig iawn iddynt.

"I glwb sydd mor fawr, mae'n siwr fod Bangor yn ei gweld hi'n bwysig i chwarae yn Ewrop y tymor nesa, yn enwedig o ystyried yr holl arian sydd wedi ei wario ganddynt eleni."

Mae bod yn y ffeinal yn gysur ynddi ei hun yn ol Mark.

Does yna ddim yn waeth, meddai, na cholli yn rownd gyn-derfynol unrhyw gwpan.

"Dwi'n cofio bod yn rhan o garfan Leeds United pan wnaethom ni golli i Coventry yn y rownd gyn-derfynol yng Nghwpan Lloegr yn 1987," meddai.

"Roeddwn i wedi arwyddo i'r clwb, ond doeddwn i ddim yn cael chwarae yn y gem gan mod i eisioes wedi chwarae yn y cwpan i Charlton y tymor hwnnw. Roedd o'n brofiad ofnadwy i imi wyloi'r tim yn colli a gweld dynion caled a phrofiadol yn llawn o ddagrau.

Dim ond un cyfle sydd mewn gem gwpan, heblaw ail-chwarae wrth gwrs, ac mae'n rhaid i'r ddau dim baratoi fel pe na byddai dim byd arall yn y byd yn cyfrif.

"Mae'n rhaid canolbwyntio am y cyfnod cyn ac yn ystod y gem. Dim ond ar ol y gem mae na gyfle i ymlacio a mwynhau a sbio yn ol ar ddiwrnod na ddaw byth yn ol..efallai."

Links to other sites on the Web

Back to 'What the Papers Say'
Back to Barry Town AFC Index

This page maintained by the Yellow Dragon, 1998.
This report first published in Y Cymro', 06.05.98

Argraffwyd gan Y Cymro ar 06.05.98


This page hosted by GeoCities Get your own Free Home Page


Hosted by www.Geocities.ws

1